Mae’n bleser gan BEYOND gyhoeddi mai Caerdydd yw ein cartref ar gyfer cynhadledd 2022 a rhannu myfyrdodau gan yr Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr Clwstwr, ar thema’r gynhadledd eleni a sut mae Caerdydd yn arwain y ffordd o ran cael economi greadigol fwy cynaliadwy a chynhwysol.
Croeso i Gymru, welcome to Wales, cenedl ddiwydiannol gyntaf y byd, man lle bu diwydiant yn taflu cysgod ar amaethyddiaeth fwy na 170 mlynedd yn ôl.
Yn gyntaf, dyma rai rhifau i helpu i roi cyd-destun i chi. Erbyn dechrau’r unfed ganrif ar bymtheg, de Cymru oedd cynhyrchydd haearn mwyaf y byd. Erbyn dechrau’r ugeinfed ganrif, roedd traean o lo’r byd yn cael ei gloddio yng Nghymru, a chafodd Caerdydd, y porthladd glo prysuraf ar y blaned, ei thrawsnewid o fod yn un o’i threfi lleiaf i’w mwyaf. Ym 1904, llofnodwyd siec miliwn o bunnoedd gyntaf y byd yng nghyfnewidfa lo Caerdydd.
Yng Nghymru, ystyr cynefin yw ymdeimlad o le – ei hanes a’i hunaniaeth, ei thirwedd, ei cherfluniau ac enwau strydoedd. Yn ne Cymru, mae ein cynefin wedi ei ddiffinio ers tro gan fwyngloddio, gweithgynhyrchu metel ac anghydffurfiaeth Fethodistaidd. Ond mae’r rhan fwyaf o hynny wedi diflannu erbyn hyn. Mae’r pyllau glo ar gau, mae llawer o’r capeli’n wag ac mae llai na 10% o swyddi Cymru ym maes gweithgynhyrchu.
Ond mae hanes arall. Yn byrlymu o’i thirwedd gwledig, creithiog mae Cymru’r Mabinogion a’r Eisteddfod, Ivor Novello a Roald Dahl, Jan Morris a’r Manic Street Preachers, Dylan ac RS Thomas, Catatonia a Charlotte Church, Richard Burton a Shirley Bassey. Ym 1897, dwy filltir i’r gorllewin o Fae Caerdydd, anfonodd Guglielmo Marconi y neges radio gyntaf erioed, arwydd clywadwy o fath gwahanol o ddyfodol – un a fyddai â lleisiau a storïwyr yn ganolog iddo.
Dyma ragor o rifau. Heddiw, mae mwy na 15% o fentrau Caerdydd yn y diwydiannau creadigol. Mae gan dde Cymru fwy o stiwdios teledu nag unrhyw le yn y DU y tu allan i Lundain, a dyma drydydd cyflogwr mwyaf y diwydiant ffilm a theledu yn y DU (ar ôl Llundain a Manceinion). Dyma ein cynefin newydd: man lle daw gweithgaredd economaidd gyda ffraethineb, calon ac enaid. Rydym yn falch iawn felly o groesawu Beyond i Gaerdydd: rydym yn siŵr y byddwch yn ymgartrefu’n gyflym.
Mae cynhadledd eleni yn cael ei harwain gan faes arall yr oedd Cymru ar y blaen ynddo – Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru. Mae’n syniad syml: dylai popeth y mae’r Llywodraeth yn ei wneud fod yn ymwybodol o iechyd a hapusrwydd cenedlaethau i ddod ac anelu at hyn. Ac eto mae troi hynny’n bolisi pwrpasol – ar gyfer economi greadigol fwy cynaliadwy a chynhwysol – yn fwy anodd.
Thema ganolog Beyond 2022 yw ceisio dychmygu sut y gallai – ac y dylai – edrych. Dyfodol lle mae technoleg yn gwasanaethu angen y farchnad yn ogystal â phwrpas cymdeithasol a diwylliannol.
Ac rydym yn falch iawn o fod yn datgelu Galwad yn BEYOND: dychmygu dyfodol deng mlynedd ar hugain o nawr sy’n adeiladu ar ysbryd Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, gan archwilio ei phosibiliadau a’i chyfyng-gyngor moesol. Mae’r dychmygu ymarferol iawn hwn wedi’i ymgorffori yn ein gwaith yn Clwstwr: gan weithio gyda BAFTA albert a Ffilm Cymru, rydym yn anelu at roi Cymru ar flaen y gad o ran bargen newydd werdd ar gyfer y sgrîn.
Felly dewch i ymuno â ni ym mhrifddinas Cymru ar yr hyn a fydd yn daith gofiadwy i’r tu hwnt: y tu hwnt i garbon, y tu hwnt i ffiniau a’r tu hwnt i derfynau chwyddedig busnes fel arfer. Ymlaen!
Mae’r erthygl hon hefyd ar gael I’w darllen yn Saesneg yma.